Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-22-12 papur 2

Ymchwiliad i Glastir - Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

 

Glastir: Cefndir

1.         Ym mis Medi 2008,  cyhoeddodd Elin Jones AM, y Gweinidog dros Faterion Gwledig gynt, adolygiad o gynlluniau Echel 2 y CDG yng Nghymru. Canfu’r adolygiad fod gan y cynlluniau amaeth-amgylchedd cyfredol ddiffyg amcanion a llinell sylfaen glir, ac nad oedd modd asesu i ba raddau y maen nhw’n mynd i’r afael â’r cynigion sydd newydd eu cyflwyno ar gyfer Archwiliad Iechyd y PAC. Ar 5 Mai 2009, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai’r pedwar cynllun Echel 2 cyfredol yng Nghymru (Tir Cynnal, Tir Gofal, Tir Mynydd a’r Cynllun Ffermio Organig) yn cael eu troi’n un cynllun sengl ar 1 Ionawr 2012, o dan yr enw Glastir i fynd i’r afael â’r heriau newydd a amlinellir yng nghynigion yr Archwiliad Iechyd. Cyhoeddwyd yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf 2010 y byddai Glastir hefyd yn cymryd lle’r cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru.

 

2.         Cafwyd cyfnod o drafod dwys â rhanddeiliaid yn dilyn y cyhoeddiad. Cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru droeon â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys yr undebau ffermwyr, y Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad, y Parciau Cenedlaethol, Fforwm Tir Comin Cymru, asiantaethau amgylcheddol a sefydliadau anllywodraethol eraill sydd â buddiant mewn amcanion rheoli tir cynaliadwy. Cynhaliwyd dros 100 o gyfarfodydd gyda ffermwyr fel rhan o’r broses i esbonio’r cynllun newydd i ymgeiswyr posibl yn y diwydiant.

 

3.         Wedi i gyfnod ymgeisio Glastir 2010 ddod i ben, cyhoeddodd y Gweinidog ar y pryd adolygiad annibynnol o Elfen Cymru Gyfan Glastir – Adolygiad Rees Roberts – oedd yn tynnu ynghyd sylwadau gan yr undebau ffermio, y Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad, Canolfan Organig Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru, y Clwb Ffermwyr Ifanc a’r diwydiant godro. Cyflwynodd yr adolygiad ei adroddiad ym mis Mawrth 2011, gan argymell 69 o gamau gweithredu. Derbyniodd y Gweinidog y mwyafrif o’r camau gweithredu, a derbyniais i nhw adeg fy mhenodi yn Ddirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd yn dilyn etholiad y Cynulliad. Rhoddwyd y mwyafrif o’r camau hyn ar waith erbyn yr hydref 2011. 

 

Amlinellir y broses gyflwyno a’r niferoedd sydd wedi ymuno â phob elfen o’r cynllun Glastir yn Nhabl 1.

 

Elfen y Cynllun

Contractau/Galw

 

Elfen Cymru Gyfan 2012

1,700 o gontractau wedi’u llofnodi

Elfen Cymru Gyfan 2013

Tua 700 o ymgeiswyr

Elfen Cymru Gyfan 2014

Tua 9,000 wedi mynegi diddordeb ar y SAF

ACRES 2012

700+ cais ar gyfer themâu wedi’u dethol

Elfen wedi’i Thargedu 2013

420 wedi’u dethol ar gyfer ymweliad

Rheoli Coetir Glastir

249 o geisiadau

Creu Coetir Glastir

356 o gontractau

Elfen Tir Comin 2012

107 o gontractau

Elfen Tir Comin 2013

100+ wedi mynegi diddordeb

Tabl 1: Y niferoedd sydd wedi ymuno ag elfennau Glastir

 

4.         Roedd y nifer fawr a fynegodd ddiddordeb yn wreiddiol yn Elfen Cymru Gyfan a’r dyheadau ar gyfer y cynllun gan Lywodraeth Cymru yn golygu y beirniadwyd y nifer a ymunodd i ddechrau ag Elfen Cymru Gyfan. Gwnaeth tua 3,000 o ffermwyr gais yn rownd ymgeisio cyntaf Elfen Cymru Gyfan Glastir yn hydref 2010. Llofnododd ychydig dros 1700 o ffermwyr gontractau Elfen Cymru Gyfan Glastir yn y flwyddyn gyntaf, a chafwyd 700 o geisiadau pellach yn y cyfnod ymgeisio nesaf. Cyn agor y cyfnod ymgeisio cyntaf, rhoddwyd nifer o drefniadau ymestyn (Tabl 2) ar waith ar gyfer derbynwyr cyfredol Tir Gofal, Tir Cynnal a Tir Mynydd. Roedd hyn o fudd i fwy na 12,000 o ffermwyr, ond arweiniodd at lawer llai o alw a photensial i ffermwyr ymuno ag Elfen Cymru Gyfan Glastir yn y blynyddoedd cynnar. Yn sgil cyflwyno newidiadau yr adolygiad Rees Roberts yn gyflym, roedd peth dryswch ynghylch y broses ymgeisio i’r rheini a oedd eisoes wedi gwneud cais, gyda rhai ffermwyr yn tynnu’n ôl i ystyried eu hopsiynau ymhellach yng ngoleuni’r newidiadau.  

Enw’r cynllun

Ymestyn cytundebau tan ddiwedd 2013

Tir Gofal

3,799

Tir Cynnal

2,820

Cynlluniau ffermio organig

1,032

Tabl 2: Trefniadau ymestyn ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol cyfredol.

 

5.         Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn meysydd eraill. Mae’r galw wedi bod yn arbennig o dda am yr Elfen Tir Comin ac os bydd pawb sydd wedi mynegi diddordeb yn llofnodi cytundeb, amcangyfrifir y bydd dros 75% o dir comin cymwys (dros 35% ar hyn o bryd) o dan y cynllun erbyn dechrau 2013. Mae hyn yn cymharu â llai na 2% o dir comin mewn cynllun amaeth-amgylcheddol cyn lansio Glastir. Bydd hyn yn gam pwysig sylweddol tuag at roi ucheldir yn gynaliadwy, sy’n hanfodol o ran rheoli effeithiol ar ddalfeydd carbon, bioamrywiaeth a rheoli dŵr yng Nghymru.

 

6.         Mae llawer wedi ymuno ag ACRES, Rheoli Coetir Glastir a’r Elfen wedi’i Thargedu, a’r gyllideb ac adnoddau prosesu fydd neu sy’n debygol o gyfyngu ar nifer y contractau sy’n cael eu llofnodi yn y flwyddyn gyntaf, yn hytrach na’r galw. Bydd ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf ond a oedd yn aflwyddiannus yn y flwyddyn gyntaf yn cael eu hystyried eto mewn rowndiau dethol pellach wrth i’r cynllun barhau i gael ei gyflwyno. Mae’r galw wedi bod yn dda am y cynllun Creu Coetir Glastir o gymharu â chynlluniau plannu coetir blaenorol o dan Echel 2 y CDG.

 

7.         Rhoddais ddatganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mawrth ar nifer y ffermwyr oedd wedi ymuno â chynllun Glastir, a chyhoeddais y byddwn yn pwyso a mesur y cynllun dros gyfnod addas, ac yn gwneud penderfyniad pellach cyn toriad yr haf. Ar 3 Gorffennaf, cyhoeddais ganlyniad yr ymarfer pwyso a mesur drwy ddatganiad llafar gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Canlyniad Pwyso a Mesur

 

8.         Mae’r adroddiad pwyso a mesur llawn a’m datganiad llafar dyddiedig 3 Gorffennaf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/farming/glastirhome/glastirstocktake/glastirstocktake/?lang=cy.

 

Dyma brif ganlyniadau fy ymarfer pwyso a mesur:

 

Hen enw – Elfen Cymru Gyfan Glastir:

Enw newydd – Glastir Entry / Glastir Sylfaenol

Elfen wedi’i Thargedu Glastir:

Glastir – Advanced / Glastir Uwch

Elfen Tir Comin Glastir:

Glastir – Commons / Glastir – Tir Comin

Cynllun Creu Coetir Glastir:

Glastir – Woodlands creation / Glastir - Creu Coetiroedd

Cynllun Rheoli Coetir Glastir:

Glastir - Woodlands management / Glastir Rheoli Coetiroedd

Cynllun Lleihau Carbon Amaethyddol:

Glastir - Efficiency grants / Glastir - Grantiau Effeithlonrwydd

Tabl 3

 

10.       Ni fyddaf yn cyhoeddi newidiadau ychwanegol i fanylion y cynllun rwyf wedi’u derbyn ond lle mae angen addasu’r CDG ymhellach nes bod canlyniad gynigion yr elfennau gwyrdd o dan golofn 1 y PAC yn hysbys a bod y rheoliadau Datblygu Gwledig newydd mewn grym. Y dewis arall fyddai addasu’r CDG cyfredol cyn diwedd 2013 ac yna cyflwyno newidiadau pellach yn sgil diwygio’r PAC. Fodd bynnag, byddai hyn yn golygu gorfod ailysgrifennu nifer o gontractau ac ansefydlogrwydd yn y cynllun o hyd. Rwyf wedi penderfynu felly rhoi’r newidiadau hyn ar waith yn 2015 er mwyn cael cyfnod o sefydlogrwydd yn y cynllun fel y mae ffermwyr wedi bod yn pwyso amdano.

 

Cwestiynau penodol gan Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ac ymateb Llywodraeth Cymru.

 

Cw. Faint o gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ymrwymo i gontractau Elfen Cymru Gyfan ar gyfer blwyddyn galendr 2012?

 

Ymateb Llywodraeth Cymru Amcangyfrif gwariant presennol 2012 ar gontractau Elfen Cymru Gyfan yw £5,881,999.

 

Cw. Faint o gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ymrwymo i gontractau Elfen ACRES ar gyfer blwyddyn galendr 2012?

 

Ymateb Llywodraeth Cymru Amlinellir gwerth yr ymrwymiadau o rownd dethol ACRES 2012 (sy’n cael eu talu dros ddwy flwyddyn ariannol) yn Nhabl 4 isod. Nid yw’r holl hawliadau wedi’u prosesu eto. 

 

*Mae’r tabl yn dyrannu cost ar sail pob ymgeisydd yn gwneud cais ar gyfradd o 40%. Fodd bynnag, bydd y ffigurau ychydig yn uwch oherwydd bod ffermwyr ifanc sy’n gwneud cais yn derbyn grant o 50% grant (nid yw’r data hwn ar gael ar hyn o bryd).

 

 

 

Gwerth Dyfynbris

Gyda Grant o 40%

Cyfanswm gwerth eitemau rownd dethol 2012 y rhagwelir eu hawlio yn 2012/2013

£3,066,787

£1,226,714.80

Cyfanswm gwerth eitemau rownd dethol 2012 y rhagwelir eu hawlio yn 2013/2014

£7,889,929

£3,155,971.60

Cyfanswm yr ymgeisiwyd amdano

£10,956,716

£4,382,686.40

Tabl 4 Rhagolwg ymrwymiadau ariannol ACRES 2012

 

Yn ei lythyr dyddiedig 21 Mehefin 2012, nododd y Pwyllgor y materion canlynol yr hoffai ymchwilio ymhellach iddynt ymhellach:

 

Mater 1: Cyfleu amcanion y cynllun ac awgrymiadau ynghylch sut gellir gwell canfyddiadau o’r cynllun. Pwysleisiodd rhanddeiliaid bod canfyddiad o hyd ei bod yn anodd ymuno â’r cynllun ac nad yw llawer o ffermwyr yn ymwybodol o hyd o’r newidiadau i’r cynllun yn dilyn adolygiad Rees Roberts. Pwysleisiodd yr holl randdeiliaid bwysigrwydd sicrhau bod y rheini yn Elfen Cymru Gyfan ar hyn o bryd yn cael profiad da.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru: Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr ymarfer pwyso a mesur bod angen gwella cyfathrebu strategol a gweithredol am gynllun Glastir. Caiff swyddog cyfathrebu strategol ei benodi i reoli cynllun cyfathrebu y cynllun Glastir. Yn arbennig, bydd y cynllun yn canolbwyntio ar gyfleu o'r newydd y prif amcanion Glastir, dangos enghreifftiau o lwyddiant a defnyddio astudiaethau achos i helpu ffermwyr i ddeall beth yw amcanion y cynllun a sut gallant ymgysylltu â’r broses.

 

Mater 2: Diffyg swyddogion prosiect i gefnogi Elfen Cymru Gyfan – awgrymodd nifer o’r ymatebwyr i’r Pwyllgor y gallai defnyddio mwy o swyddogion prosiect helpu i gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan yn y cynllun.

Ymateb Llywodraeth Cymru: Mae defnyddio swyddogion prosiect unigol i gael ffermwyr i lofnodi cytundebau ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol sylfaenol yn gofyn am lawer o adnoddau. 700 oedd y nifer fwyaf o ffermwyr a ymunodd â Tir Gofal mewn un flwyddyn galendr, pan oedd Llywodraeth Cymru yn cyflogi dros 40 o swyddogion prosiect. Nid yw’n bosibl cael cynifer o swyddogion yn yr hinsawdd ariannol presennol. Cydnabu GAAG 2011 y cyfyngiadau ar adnoddau mewnol y llywodraeth yn yr hinsawdd economaidd presennol, gan ddod i’r casgliad y byddai’n well i ffermwyr sy’n methu llenwi’u ffurflenni ddod o hyd i’w cyngor eu hunain i’w helpu i ymuno â’r cynllun – mewn rhai achosion drwy’r gwasanaeth Cyswllt Ffermio a ariennir ar hyn o bryd drwy’r CDG. Roedd nifer o ffermwyr yn defnyddio’r gwasanaeth hwn i’w helpu i benderfynu a oedd yn gwneud synnwyr o safbwynt busnes i ymuno â Glastir. Roedd GAAG 2011 o’r farn bod defnyddio gwasanaethau presennol fel Cyswllt Ffermio yn well na defnyddio arian ychwanegol o gyllideb y CDG i ariannu swyddogion penodedig Elfen Cymru Gyfan Glastir.

 

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod Swyddogion Datblygu Tir Comin wedi gwneud yn arbennig o dda o ran hwyluso creu cymdeithasau pori a cheisiadau i’r Elfen Tir Comin. Gyda mwyafrif y tir comin cymwys bellach yn rhan o’r cynllun neu’n destun datganiad mynegi diddordeb eleni, bellach mae cyfle i ddefnyddio Swyddogion Datblygu Tir Comin yn fwy helaeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau gyda’r Grwpiau Gweithredu Lleol i geisio adnewyddu ac addasu’r contract Swyddogion Datblygu Tir Comin i sicrhau bod eu cymorth ar gael yn fwy helaeth yn Glastir yn arbennig i gynnig cymorthfeydd a gwasanaethau cynghori lleol.

 

Mater 3: Gofynion cadw gwybodaeth a chofnodion Elfen Cymru Gyfan a’r awgrymiadau ar sut i symleiddio hyn – holwyd cwestiynau ynghylch pa mor angenrheidiol yw rhai o’r gofynion cadw cofnodion, a mynegwyd pryder difrifol ynghylch y biwrocratiaeth sy’n codi yn sgil y gofynion hyn;

Ymateb Llywodraeth Cymru: Mae Rheoliadau’r Comisiwn Ewropeaidd yn ei gwneud yn ofynnol dilysu a rheoli rhai o ofynion y cynllun drwy gadw cofnodion. Fel yr amlinellwyd yn fy natganiad ar 3 Gorffennaf, caiff y gofynion hyn eu hadolygu i sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru yn gofyn am fwy nag sy’n ofynnol gan archwilwyr y Comisiwn Ewropeaidd.

 

Mater 4: Pryder ynghylch y mecanweithiau taliadau ar gyfer gwaith cyfalaf a’r angen i esbonio’r mecanweithiau newydd yn well i ffermwyr – nodwyd bod newid y dull gweithredu a sut mae hyn yn cael eu gyfleu i ffermwyr fel rhywbeth sy’n achosi ansicrwydd i ffermwyr;

Ymateb Llywodraeth Cymru: Mynegwyd hyn yn y gorffennol ac ymddengys bod ffermwyr yn y cynllun yn deall sut caiff gwaith cyfalaf ei ad-dalu yn ystod y cynllun. Fodd bynnag, byddwn yn cyfathrebu eto i gyfleu’r neges hon. Caiff 100% o waith cyfalaf Glastir ei ad-dalu, gydag 20% y flwyddyn yn ystod 5 mlynedd y cynllun. Mae’n rhaid cwblhau gwaith erbyn diwedd yr ail flwyddyn. Rydyn ni’n derbyn y dylid rhoi cyfnod ychwanegol o 3 mis ar gyfer y gweithgarwch oherwydd bydd newid o dan y CDG nesaf yn rhoi dau aeaf llawn i ffermwyr gwblhau’r gwaith. Dylid nodi mai dim ond 60% o’r rhan fwyaf o waith cyfalaf oedd yn cael ei ad-dalu o dan gynllun Tir Gofal %.

 

Mater 5: Yr Elfen wedi’i Thargedu a’r pherthynas ag Elfen Cymru Gyfan – nodwyd materion ynghylch diffyg gwybodaeth sydd ar gael ynghylch yr Elfen wedi’i Thargedu a’r datgysylltiad rhwng prosesau ymgeisio y ddwy elfen;

Ymateb Llywodraeth Cymru: Bwriedir dechrau symleiddio cynlluniau Elfen Cymru Gyfan (Glastir – Sylfaenol bellach) a’r Elfen wedi’i Thargedu (Glastir – Uwch bellach) o’r flwyddyn nesaf ymlaen. I ddechrau, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn drwy flaenoriaethau deiliaid cytundebau Tir Gofal sydd wedi gwneud cais i Glastir – Sylfaenol ac sydd â digon o bwyntiau i gael eu dewis ar gyfer cynllun Glastir – Uwch. Bydd rheolwr contract yn ymweld â’r ffermwyr hyn cyn iddynt ymuno â’r naill elfen fel bod modd esbonio’r “pecyn cyfan” iddyn nhw. Yn yr hirdymor, fy amcan yw cyflwyno hyn i bob ymgeisydd sy’n sgorio digon o bwyntiau i ymuno â’r cynllun Uwch yn y flwyddyn maen nhw’n gwneud cais ar gyfer Glastir – Sylfaenol. Hefyd bydd gwybodaeth ychwanegol am yr elfen Uwch ar gael ar-lein.

 

 

Mater 6: Pryder ynghylch rhoi’r Cynlluniau Creu a Rheoli Coetir ar waith –gan gynnwys p’un a yw’r cynlluniau’n rhoi digon o ystyriaeth i safbwyntiau rhanddeiliaid coedwigaeth masnachol.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru: Mae prif bryderon rhanddeiliaid y sector coedwigaeth yn ymwneud â gofynion newid rhywogaeth ar gyfer amodau ailstocio dros 400m yng nghynllun Rheoli Coetir Glastir. Mae rhanddeiliaid o’r farn bod y canran mwyaf o brif rywogaeth a ganiateir (e.e. sbriws Sitka) yn rhy isel. Yn ystod ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi caniatáu cynnydd yn y canran hwn o 70% i’r 75%; mae rhanddeiliaid yn dadlau dros gynnydd pellach i 80%. Mae angen cymysgedd o rywogaeth eilaidd i fod yn fwy cadarn rhag y newid yn yr hinsawdd, peryglon i iechyd planhigion a chynyddu gwerth bioamrywiaeth coetiroedd. Mae cymhariaeth â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS), sy’n gosod y safonau gorfodol ar gyfer trwydded cwympo coed, yn dangos mai dim ond mantais arwynebedd o 3% fyddai o fodloni gofynion y coedwigwyr masnachol uwchlaw llinell sylfaen gofynion UKFS dros arwynebedd taladwy y cynllun. Ni fyddai hyn yn cynnig gwerth da am arian i bobl Cymru a phrin fyddai’r manteision amgylcheddol ychwanegol o’r cynllun.

 

Rwy’n derbyn yn fy ymateb i’r ymarfer pwyso a mesur y dylid gostwng 50m ar y bandiau uchder fel bodd modd defnyddio canran uwch o brif rywogaethau ar dir is. Yn ogystal, rwy’n derbyn bod angen edrych yn fanylach ar gynllun Creu Coetir Glastir i weld a oes modd lleihau ar unwaith yr arwynebedd sy’n cael ei gyfrif yn anghymwys ar gyfer plannu.

 

 

 

Alun Davies AC

Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd